Y Rolau
Mae gennym ni rolau cyffrous, heriol a gwerth chweil ar gael ar draws DWP.
Rydym yn chwilio am bobl sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, gyda'r sgiliau, yr ymrwymiad a'r gallu cywir i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus gwych.
Mae rôl Swyddog Gweithredol DWP yn eang ac amrywiol.
Byddwch yn gweithio gyda chwsmeriaid, cyflogwyr a chydweithwyr yn ddyddiol drwy gyfuniad o gysylltiadau digidol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb. I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi ddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol ar draws ystod eang o gwsmeriaid amrywiol, ynghyd â'r gallu i ddeall gwybodaeth gymhleth a rhoi esboniadau i'r cwsmer. Byddwch hefyd gyda’r gallu i reoli sefyllfaoedd anodd.
Y Rolau
Anogwr Gwaith Credyd Cynhwysol
Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl …. Eu helpu i adnabod eu potensial
Mae rôl yr Anogwr Gwaith yn eang ac amrywiol. Byddwch wedi'ch lleoli mewn Canolfan Gwaith yn gweithio gyda rhwydwaith o gwsmeriaid, cyflogwyr a chydweithwyr trwy gyfuniad o gyswllt wyneb yn wyneb, digidol a ffôn yn ddyddiol. Byddwch yn defnyddio eich barn i helpu pobl drwy rai adegau anodd, heriol yn eu bywydau, a gall eich hyfforddiant wedi’i deilwra wneud gwahaniaeth enfawr i’w gallu i ddod o hyd i swydd ac aros ynddi, neu i symud ymlaen mewn gyrfa.
Mae'r rolau hyn yn gyffrous ac yn heriol a byddwch yn rhan o dîm lle gallwch fod yn chi eich hun, teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, eich grymuso, eich gwerthfawrogi a'ch parchu.
Byddwch yn gallu defnyddio a datblygu eich gwybodaeth am ystod o fanteision DWP a meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda rhwydwaith o gyflogwyr lleol.
Mae cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch doniau gyda mynediad i ystod o ddysgu technegol a phroffesiynol i'ch galluogi i adeiladu gyrfa werth chweil.
Os ydych chi'n mwynhau gweithio gyda phobl ac yn chwilio am yrfa sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, yna dyma'r rôl i chi.
Darganfyddwch fwy am rôl ein Anogwyr Gwaith a sut maen nhw'n helpu i symud cwsmeriaid i mewn i'r gwaith Diwrnod Ym Mywyd Anogwr Gwaith (youtube.com) Cliciwch ar y gosodiadau eicon cog, dewiswch isdeitlau Cymraeg/Saesneg
Trosolwg o'r Rôl
Mae hon yn rôl amrywiol ac mae'r prif weithgareddau'n cynnwys cefnogi cwsmeriaid i wneud cais am fudd-daliadau sy'n gysylltiedig â gwaith a chael cymorth a chyngor ychwanegol i gael mynediad at ein gwasanaethau. Byddwch yn cynnig cyngor o safon i gwsmeriaid am weithgareddau chwiliad swydd, gan eu cefnogi i chwilio am waith yn effeithiol mewn byd digidol, a pharu cwsmeriaid â swyddi gwag addas.
Bydd angen i chi feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda chwsmeriaid sy'n annog, yn ysgogi ac yn meithrin ymddiriedaeth ac wrth wneud hyn byddwch yn datblygu gwybodaeth fanwl am gyfleoedd cyflogaeth lleol a'r cymorth y mae ein partneriaid gwasanaeth yn ei gynnig.
Byddwch yn atebol am berfformiad a rheolaeth eich llwyth achosion wrth iddo newid yn seiliedig ar alw lleol.
Am bwy rydyn ni'n chwilio
Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r gallu i ddeall gwybodaeth gymhleth a rhoi esboniadau clir i'r cwsmer. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig i ystod eang o gwsmeriaid amrywiol. Bydd hyn yn eich galluogi i hyfforddi cwsmeriaid i wella eu symudiad i mewn i'r gwaith a rheoli sgyrsiau heriol. Bydd y cryfderau hyn yn eich galluogi i reoli sefyllfaoedd anodd lle bo angen mewn modd digynnwrf a phroffesiynol sy'n ofynnol gan ddilyn gweithdrefnau'r Adran.
Rhaid i chi allu llywio amrywiaeth o systemau cyfrifiadurol i gwblhau tasgau yn ogystal â hyfforddi cwsmeriaid i fod yn hyderus wrth ddefnyddio teclynnau chwiliad gwaith digidol. Bydd gofyn i chi hefyd ymdrin ag ymholiadau ffôn yn ogystal â'ch apwyntiadau wyneb yn wyneb.
Hyfforddiant
Mae hyfforddiant yn broses gyfnodol o hyfforddiant ystafell ddosbarth ac atgyfnerthu dros 31 diwrnod a gyflwynir wyneb yn wyneb a’n rhithiol mewn rhannau.
Sylwch y bydd gofyn i ymgeiswyr rhan-amser llwyddiannus a rhannu swydd weithio'n llawn amser am nifer o wythnosau i gwblhau a chyfnerthu hyfforddiant.
Oriau gweithio
Mae contractau DWP yn seiliedig ar 42 awr yr wythnos ond byddwch yn gweithio 37 awr (o dan rai amgylchiadau 36 awr ar gyfer staff presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llundain).
Mae’n rhaid i bob cwsmer dderbyn gwasanaeth cyson dda ni waeth sut na phryd y byddant yn penderfynu cysylltu â DWP fel y cyfryw: Efallai y bydd gofyn i chi weithio unrhyw bryd rhwng 7.45 am ac 8:00 pm ar unrhyw ddiwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener, a 8.45 am i 5:00 pm ar ddydd Sadwrn.
Bydd patrwm gwaith sy'n bodloni anghenion busnes yn cael ei drafod a'i gytuno ar ôl i chi ddechrau, a allai cynnwys, mewn rhai timau, rai sifftiau hwyr a gofynion dydd Sadwrn, gan ystyried anghenion busnes ac amgylchiadau personol. Byddwch yn cael rhybudd ymlaen llaw o'ch amserlen bersonol.
Lleoliad Gwaith
Mae hon yn rôl swyddfa yn un o’n Canolfannau Gwaith – ar hyn o bryd mae Canolfannau Gwaith ar agor i’r cyhoedd 09:00-17:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Adolygiad Credyd Cynhwysol
Sicrhau bod budd-daliadau yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen fwyaf... Dyna yw ein pwrpas.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu hawlwyr i sicrhau bod eu taliadau Credyd Cynhwysol yn gywir. Byddwch hefyd yn helpu i ganfod ac atal gwall ar draws y system Credyd Cynhwysol i sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr.
Byddwch yn helpu hawlwyr i sicrhau bod eu hamgylchiadau personol yn gywir ac yn gyfredol. Bydd hyn yn sicrhau bod yr hawl gywir i Gredyd Cynhwysol yn cael ei dalu.
Byddwch yn defnyddio sgiliau hyfforddi i sicrhau bod hawlwyr yn gwybod beth sydd angen iddynt ei ddarparu. Byddwch hefyd yn helpu hawlwyr i ddeall pwysigrwydd cadw eu manylion yn gyfredol.
Byddwch yn rhan o dîm lle gallwch fod yn chi eich hunain, teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, eich grymuso, eich gwerthfawrogi a'ch parchu.
Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich sgiliau gydag ystod o ddysgu technegol a phroffesiynol i'ch helpu i adeiladu gyrfa gwerth chweil.
Os ydych yn mwynhau gweithio gyda phobl a'ch bod yn chwilio am yrfa sy'n sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n gywir a bod pobl yn cael y lefelau cywir o gefnogaeth, yna gallai hyn fod y swydd i chi.
Darganfyddwch fwy am rôl ein Asiant Credyd Cynhwysol a sut maen nhw'n helpu i symud cwsmeriaid i mewn i'r gwaith Diwrnod ym mywyd asiant adolygu credyd cynhwysol (Cliciwch ar y gosodiadau eicon cog, dewiswch isdeitlau Saesneg / Cymraeg)
Trosolwg o’r Rôl
Mae rôl yr Asiant Adolygu Credyd Cynhwysol yn eang ac amrywiol.
Byddwch yn gweithio gyda chwsmeriaid, cyflogwyr a chydweithwyr drwy weithgaredd digidol a dros y ffôn i sicrhau bod taliadau'n gywir. Byddwch yn casglu tystiolaeth ac yn archwilio ffeithiau drwy gynnal adolygiad o geisiadau Credyd Cynhwysol gan ddefnyddio amrywiaeth o systemau. Fel rhan o'r adolygiad, bydd angen i chi gynnal cyfweliad ffôn cadarn gyda'r hawlydd i ganfod manylion ffeithiol allweddol i gefnogi unrhyw hawl i fudd-daliadau. Gall y rhain fod yn heriol ond hefyd yn werth chweil wrth i chi ddarparu'r elfen ddynol i broses hawlio digidol.
Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich sgiliau gydag ystod o ddysgu technegol a phroffesiynol i'ch helpu i adeiladu gyrfa werth chweil.
Pwy rydym yn chwilio amdanynt
Rydym yn chwilio am rywun sy'n wrandäwr da, sy'n gallu mynegi empathi ar yr amser cywir a chwestiynu gwybodaeth a ddarperir yn y ffordd gywir. Byddwch angen sgiliau cyfathrebu da, ar lafar, ar y ffôn ac yn ysgrifenedig, a bydd gennych agwedd ymarferol i gyflawni a gwneud y peth iawn i'r cwsmer. Bydd angen i chi allu adnabod problemau, gofyn y cwestiynau cywir, casglu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau effeithiol gan ddangos barn gadarn a meddwl gwrthrychol, dadansoddol.
Byddwch yn rhan o dîm felly bydd angen i chi allu cydweithio â chydweithwyr i ddatrys problemau neu ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl.
Hyfforddiant
Pan fyddwch yn dechrau, bydd gofyn i chi gwblhau cyfnod o hyfforddiant a dysgu yn seiliedig ar waith llawn amser a fydd yn cymryd tua 7 wythnos.
Oriau gwaith
Mae contractau DWP yn seiliedig ar 42 awr yr wythnos ond byddwch yn gweithio 37 awr (o dan rai amgylchiadau 36 awr ar gyfer staff presennol y DWP sydd wedi'u lleoli yn Llundain).
Rhaid i bob cwsmer dderbyn gwasanaeth da yn gyson ni waeth sut neu pryd y maent yn penderfynu cysylltu â'r DWP felly: efallai y bydd gofyn i chi weithio ar unrhyw adeg rhwng 7.45am ac 8:00pm ar unrhyw ddiwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac 8.45 am i 5:00pm ar ddydd Sadwrn.
Bydd patrwm gweithio sy'n diwallu anghenion busnes yn cael ei drafod a'i gytuno unwaith y byddwch wedi dechrau, a allai, mewn rhai timau olygu rhai sifftiau hwyr a gofynion dydd Sadwrn, gan ystyried anghenion busnes ac amgylchiadau personol. Byddwch yn cael rhybudd ymlaen llaw o'ch amserlen bersonol.
Lleoliad Gweithio
Gallai'r swydd hon fod yn addas ar gyfer gweithio hybrid, ble mae gweithiwr yn gweithio rhan o'r wythnos yn eu swyddfa DWP a rhan o'r wythnos gartref. Mae hwn yn drefniant gwirfoddol, angytundebol a'ch swyddfa fydd eich man gwaith cytundebol. Bydd nifer y diwrnodau y bydd unrhyw un yn gallu gweithio gartref yn cael eu pennu'n bennaf gan anghenion y busnes, ond bydd amgylchiadau personol ac amgylchiadau perthnasol eraill hefyd yn cael eu hystyried. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd unrhyw gyfleoedd i weithio hybrid, gan gynnwys a yw trefniant gweithio hybrid yn addas i chi, yn cael eu trafod gyda chi cyn i chi ddechrau yn eich swydd.
Gwasanaethau Anabledd
Y tu ôl i bob achos mae wyneb. . . .
Gelwir rôl fel Swyddog Gwneud Penderfyniadau yn Rheolwr Achos yn y Gwasanaethau Anabledd.
Byddwch yn defnyddio'ch barn i adolygu ceisiadau gan Gwsmeriaid Anabl.
Byddwch yn defnyddio eich sgiliau ymchwilio i gasglu tystiolaeth ac archwilio ffeithiau sy'n ymwneud â Budd-dal Anabledd cyfredol i fod yn hyderus bod hawlwyr yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.
Mae'r rolau hyn yn rhoi boddhad, a byddwch yn rhan o dîm lle gallwch chi fod yn chi eich hun, teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, eich grymuso, eich gwerthfawrogi a'ch parchu.
Byddwch yn gallu defnyddio a datblygu eich gwybodaeth am Fudd-daliadau Anabledd a meithrin perthnasoedd â rhwydwaith o gydweithwyr.
Mae cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch doniau gyda mynediad i ystod o ddysgu technegol a phroffesiynol i'ch galluogi i adeiladu gyrfa werth chweil.
Os ydych chi'n mwynhau siarad â chwsmeriaid ac yn chwilio am yrfa sy'n rhoi boddhad, yna dyma'r rôl i chi.
Dysgwch fwy am weithio yn y Gwasanaethau Anabledd Diwrnod ym Mywyd Gwaith mewn Gwasanaethau Anabledd (youtube.com). Cliciwch ar y gosodiadau eicon cog, dewiswch isdeitlau Cymraeg/Saesneg
Troslowg o'r Rôl
Rheolwyr Achos
A oes gennych chi agwedd gallaf wneud at gyflawni a gwneud y peth iawn i'r cwsmer.
Fel gwrandäwr da gyda’r gallu i fynegi empathi ar yr amser iawn, byddwch yn adnabod problemau, yn casglu ac yn dehongli gwybodaeth ac yn gofyn y cwestiynau cywir er mwyn datrys problemau. Bydd angen i chi ddefnyddio barn gadarn a meddwl gwrthrychol i wneud y penderfyniad cywir a gallu cyfathrebu â chydweithwyr a chwsmeriaid yn glir ac yn gryno ar lafar (dros y ffôn) ac yn ysgrifenedig.
Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol a bod yn rhagweithiol wrth wella ac ehangu eich setiau sgiliau a gwybodaeth.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn Rheolwr Achos
Gallai eich rôl gynnwys ystod o ddyletswyddau ac rydym yn chwilio am bobl sy'n addasadwy ac yn hyblyg.
Rydym yn chwilio am bobl a all gymryd atebolrwydd personol am bob cwsmer y byddwch mewn cysylltiad â nhw. Byddwch yn gyfforddus yn siarad â'n cwsmeriaid a'u cynrychiolwyr ar alwadau i mewn/allan i ddarparu cymorth a chefnogaeth i ddatrys ymholiadau yn llwyddiannus, egluro penderfyniadau, cael gwybodaeth ychwanegol a chyfeirio'n briodol. Gall y rhain fod yn sefyllfaoedd anodd a sensitif a bydd angen i chi aros yn gwrtais a phroffesiynol, gan drin cwsmeriaid â pharch ac addasu eich ymddygiad i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid amrywiol.
Byddwch yn gallu defnyddio gwrthrychedd i ystyried achos pob cwsmer yn ei gyfanrwydd a gwneud y penderfyniadau cywir ar yr amser cywir, gan roi rhesymau clir ac egluradwy dros eich penderfyniadau.
Dylech allu gweithio ar eich pen eich hun pan fo angen ond hefyd gallu meithrin perthnasoedd, gwerthfawrogi cyfraniad eraill ac ysgogi cydweithwyr ac fel rhan o dîm cynhwysol ac amrywiol, i ddarparu gwasanaeth o safon.
Byddwch yn gallu defnyddio amrywiaeth o systemau cyfrifiadurol, teleffoni a llwyfannau digidol fel Microsoft Teams a chymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad eich hun i wella cymhwysedd a sgiliau, cefnogi a hyfforddi eraill i wneud yr un peth gan sicrhau bod popeth a wnewch yn diogelu gwybodaeth Adrannol a gwybodaeth bersonol gwsmeriaid.
Hyfforddiant
Darperir hyfforddiant dros 8 wythnos o fewn amgylchedd ystafell ddosbarth a bydd cyfnod atgyfnerthu arall o 12-16 wythnos yn cael ei gwblhau. Bydd gweithgaredd Hyfforddi a Chyfnerthu yn seiliedig ar swyddfa 100%.
Sylwch y gall fod angen i ymgeiswyr rhan-amser llwyddiannus weithio'n llawn amser am 8 wythnos i gwblhau a chyfnerthu hyfforddiant.
Oriau Gwaith
Mae contractau DWP yn seiliedig ar 42 awr yr wythnos ond byddwch yn gweithio 37 awr (o dan rai amgylchiadau 36 awr ar gyfer staff presennol y DWP sydd wedi'u lleoli yn Llundain).
Rhaid i bob cwsmer dderbyn gwasanaeth da yn gyson ni waeth sut neu pryd y maent yn penderfynu cysylltu â'r DWP felly: efallai y bydd gofyn i chi weithio ar unrhyw adeg rhwng 7.45am ac 8:00pm ar unrhyw ddiwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac 8.45 am i 5:00pm ar ddydd Sadwrn.
Bydd patrwm gweithio sy'n diwallu anghenion busnes yn cael ei drafod a'i gytuno unwaith y byddwch wedi dechrau, a allai, mewn rhai timau olygu rhai sifftiau hwyr a gofynion dydd Sadwrn, gan ystyried anghenion busnes ac amgylchiadau personol. Byddwch yn cael rhybudd ymlaen llaw o'ch amserlen bersonol.
Mae DWP yn gyflogwr sy’n ystyriol o deuluoedd ac mae’n bosibl y bydd patrymau gwaith rhan-amser a hyblyg o fewn yr oriau hyn ar gael ond mae’n rhaid iddynt ddiwallu anghenion busnes sy’n gorfod cynnwys dydd Llun a dydd Gwener fel diwrnodau gwaith.
Lleoliad Gweithio
Gallai rhai o'r swyddi hyn fod yn addas ar gyfer gweithio hybrid, ble mae gweithiwr yn gweithio rhan o'r wythnos yn eu swyddfa DWP a rhan o'r wythnos gartref.
Mae hwn yn drefniant gwirfoddol, angytundebol a'ch swyddfa fydd eich man gwaith cytundebol.
Bydd nifer y diwrnodau y bydd unrhyw un yn gallu gweithio gartref yn cael eu pennu'n bennaf gan anghenion y busnes, ond bydd amgylchiadau personol ac amgylchiadau perthnasol eraill hefyd yn cael eu hystyried. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd unrhyw gyfleoedd i weithio hybrid, gan gynnwys a yw trefniant gweithio hybrid yn addas i chi, yn cael eu trafod gyda chi cyn i chi ddechrau ar eich swydd.
Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS)
Helpu rhieni sydd wedi gwahanu i ddarparu ar gyfer eu plant. Dyna ein pwrpas.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddechrau gyrfa gyffrous a boddhaus. Rydym yn cynnig hyblygrwydd gyda chydbwysedd bywyd a gwaith yn ogystal â her a chyfleoedd. Gallai hwn fod y cam cyntaf yn eich gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil.
Mae rôl y Rheolwr Achos Gorfodi yn un eang ac amrywiol. Byddwch yn gweithio gyda chwsmeriaid, cyflogwyr a chydweithwyr trwy gyfuniad o gyswllt digidol a ffôn yn ddyddiol.
Byddwch yn defnyddio eich barn a gallwch wneud gwahaniaeth enfawr i helpu teuluoedd drwy rai cyfnodau anodd a heriol yn eu bywydau.
Mae’r rôl hon yn gyffrous ac yn heriol a byddwch yn rhan o dîm lle gallwch fod yn chi’ch hun, teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, eich grymuso, eich gwerthfawrogi a’ch parchu.
Mae cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch talentau gyda mynediad i ystod o ddysgu technegol a phroffesiynol i'ch galluogi i adeiladu gyrfa werth chweil.
Os ydych chi'n mwynhau gweithio gyda phobl ac yn chwilio am yrfa sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant, yna dyma'r rôl i chi.
Ydych chi'n gyfathrebwr eithriadol? Ydych chi'n angerddol am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol? Ydych chi'n mwynhau helpu eraill?
Os yw hyn yn swnio fel chi, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Darganfod mwy am weithio yn y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant Diwrnod ym Mywyd yn Gweithio yn y Gwasanaeth Cynhaliaeth Cliciwch ar y gosodiadau eicon cog, dewiswch isdeitlau Cymraeg/Saesneg
Trosolwg o'r Rôl
Mae Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn rhan hanfodol o DWP. Rydym yn gyfrifol am bob agwedd ar gynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr a’n hamcan yw cael arian i blant, rydym yn gwneud hyn drwy hyrwyddo cyfrifoldeb ariannol, annog a chefnogi trefniadau cynhaliaeth preifat a thrwy ddarparu gwasanaeth cynhaliaeth statudol.
Mae ein Rheolwyr Achosion Gorfodi yn allweddol i lwyddiant CMS. Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth wireddu ein hamcan o gael arian i blant. Fel rhan o dîm cefnogol a chroesawgar, byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol mewn canolfan gwasanaeth cyflym ac amgylchedd teleffoni, gan gefnogi teuluoedd sydd wedi gwahanu a sicrhau dyfodol plant.
Beth fydda i'n ei wneud?
Byddwch yn dod i gysylltiad uniongyrchol yn aml â'n cwsmeriaid a sefydliadau eraill, yn bennaf dros y ffôn i gael gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau i wneud penderfyniadau cywir ar atebolrwydd i dalu cynhaliaeth plant.
Er mwyn sicrhau taliadau a rhoi cyngor clir ar ganlyniadau peidio â thalu, byddwch yn cymryd camau gorfodi taliadau lle bo'n briodol.
I fod yn effeithiol bydd angen i chi fod yn wydn a pharhau'n broffesiynol mewn amgylchedd a all fod yn heriol weithiau.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn Rheolwr Achos Gorfodi?
Pobl frwdfrydig gyda sgiliau cyfathrebu gwych, sy'n angerddol am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Pobl sy'n gallu casglu a deall gwybodaeth sydd weithiau'n gymhleth i wneud penderfyniadau.
Bydd angen i chi allu rheoli sgyrsiau anodd gyda'n cwsmeriaid pan fo angen, a datrys ymholiadau'n llwyddiannus mewn sefyllfaoedd a all fod yn anodd a sensitif. Mae hyn yn golygu bod y gallu i aros yn ddigynnwrf ac ystyriol yn hanfodol.
Mae angen i chi fod yn wydn ac yn gymwys yn ddigidol gan ddefnyddio ein systemau digidol, gan gadw cofnodion cywir a nodiadau o unrhyw gamau gweithredu.
Os oes gennych y gallu i fod yn gyfrifol am a rheoli llwyth gwaith personol a bod yn rhan ryngweithiol o dîm rydym yn chwilio amdanoch chi.
Hyfforddiant
Mae DWP wedi ymrwymo i'ch datblygiad llwyddiannus a bydd yn rhoi'r offer i chi adeiladu gyrfa fel gweithiwr proffesiynol gwych a chymwys.
Pan fyddwch yn ymuno â CMS byddwch yn cwblhau cyfnod cynhwysfawr o hyfforddiant swyddfa amser llawn a dysgu seiliedig ar waith, a fydd yn cymryd tua 11 wythnos.
Bydd hyn yn rhoi'r offer a'r wybodaeth i chi fod yn llwyddiannus yn eich rôl.
Oriau Gwaith
Mae contractau DWP yn seiliedig ar 42 awr yr wythnos ond byddwch yn gweithio 37 awr (o dan rai amgylchiadau 36 awr ar gyfer staff presennol y DWP sydd wedi'u lleoli yn Llundain).
Rhaid i bob cwsmer dderbyn gwasanaeth da yn gyson ni waeth sut neu pryd y maent yn penderfynu cysylltu â'r DWP felly: efallai y bydd gofyn i chi weithio ar unrhyw adeg rhwng 7.45am ac 8:00pm ar unrhyw ddiwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac 8.45 am i 5:00pm ar ddydd Sadwrn.
Bydd patrwm gweithio sy'n diwallu anghenion busnes yn cael ei drafod a'i gytuno unwaith y byddwch wedi dechrau, a allai, mewn rhai timau olygu rhai sifftiau hwyr a gofynion dydd Sadwrn, gan ystyried anghenion busnes ac amgylchiadau personol. Byddwch yn cael rhybudd ymlaen llaw o'ch amserlen bersonol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o batrymau gwaith sy'n gweddu i'ch ffordd o fyw. Gallwch ddewis cael eich contractio i weithio oriau rhan-amser neu llawn amser o fewn ein horiau gweithredu safonol. Gellir gofyn am batrymau gweithio hyblyg a chânt eu hystyried yn unigol. Mae'n dibynnu ar y maes busnes os gellir darparu ar gyfer hyn.
Lleoliad Gweithio
Gallai'r swydd hon fod yn addas ar gyfer gweithio hybrid, ble mae gweithiwr yn gweithio rhan o'r wythnos yn eu swyddfa DWP a rhan o'r wythnos gartref. Mae hwn yn drefniant gwirfoddol, angytundebol a'ch swyddfa fydd eich man gwaith cytundebol. Bydd nifer y diwrnodau y bydd unrhyw un yn gallu gweithio gartref yn cael eu pennu'n bennaf gan anghenion y busnes, ond bydd amgylchiadau personol ac amgylchiadau perthnasol eraill hefyd yn cael eu hystyried. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd unrhyw gyfleoedd i weithio hybrid, gan gynnwys a yw trefniant gweithio hybrid yn addas i chi, yn cael eu trafod gyda chi cyn i chi ddechrau ar eich swydd.
Gwasanaeth Datrys Anghydfodau
Ailasesu canlyniadau i ddatrys gwahaniaethau - Galluogi cwsmeriaid a'u teuluoedd i gael y cymorth cywir
Gelwir y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn Rheolwyr Achos o fewn y Gwasanaethau Datrys Anghydfodau
Mae ein Rheolwyr Achos yn cynnig gwasanaeth cyflym, gan ddarparu rhai o'r bobl sy’n fwyaf bregus mewn cymdeithas â phenderfyniadau ar eu hawl i fudd-daliadau.
Os yw cwsmer DWP yn anghytuno â phenderfyniad am fudd-daliadau, credydau treth neu gynhaliaeth plant, gallant ofyn i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto - gelwir hyn yn 'ailystyriaeth orfodol'. Mae'r Gwasanaethau Datrys Anghydfodau (DRS) yn darparu'r gwasanaeth sy'n caniatáu i'n cwsmeriaid herio penderfyniad budd-dal (ailystyriaeth orfodol) neu gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad budd-dal.
Yn DRS rydym yn gweithio gyda'n cwsmeriaid i ddeall eu hamgylchiadau unigol, casglu a dehongli tystiolaeth a gwneud penderfyniadau sy'n cael effaith go iawn ar fywyd.
Rydym yn chwilio am bobl sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, sy'n gallu dangos sgiliau cyfathrebu da ac sydd â'r ymrwymiad a'r gallu i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus eithriadol. Os oes gennych ymroddiad gwirioneddol i adran gwasanaethau cyhoeddus sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl eraill, byddwch yn cael boddhad mawr o weithio gyda ni.
Byddwch yn rhan o dîm lle gallwch fod yn chi eich hunain, teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, eich grymuso, eich gwerthfawrogi a'ch parchu.
Mae cyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch doniau gyda mynediad at ystod o ddysgu technegol a phroffesiynol i'ch galluogi i adeiladu gyrfa werth chweil.
Darganfod mwy am weithio yn y Gwasanaethau Datrys Anghydfodau, yn dilyn un o’n Swyddogion Cyflwyno, er bod gennym amrywiaeth o rolau gwahanol. Diwrnod ym Mywyd Gweithio mewn Gwasanaethau Datrys Anghydfodau (youtube.com) Cliciwch ar y gosodiadau eicon cog, dewiswch isdeitlau Cymraeg/Saesneg
Trosolwg o’r Rôl
Mae Rheolwr Achos DRS yn defnyddio systemau digidol a ffôn i ymgysylltu â chwsmeriaid sydd am herio eu penderfyniad budd-daliadau.
I wneud hyn, ar ôl derbyn tystiolaeth, byddwch yn archwilio'r ffeithiau ac yn ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol er mwyn gwneud penderfyniad ar faterion sy'n ymwneud â'r achos.
Bydd angen i chi gyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o gwsmeriaid amrywiol, ynghyd â gallu deall a dehongli gwybodaeth gymhleth i esboniadau clir a chryno i'r cwsmer, gan ddarparu esboniadau o benderfyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Bydd angen i chi hefyd ddysgu defnyddio ystod o systemau cyfrifiadurol a bydd gofyn i chi ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn, a gallai rhai ohonynt fod yn sensitif.
Mae cynnal Ailystyriaeth Orfodol (mae hyn yn golygu adolygu penderfyniadau a wneir mewn perthynas â budd-dal cwsmer) a pharatoi apeliadau ar gyfer y Gwasanaeth Tribiwnlys yn elfen hanfodol o'r rôl hon yn ogystal â darparu ystadegau cywir a chasglu gwybodaeth i gefnogi cynllunio.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano mewn Rheolwr Achos
Rhywun sydd â sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf sy'n wrandäwr da ac sy'n gallu mynegi empathi ar yr adeg iawn.
Bydd angen i chi allu casglu a dadansoddi gwybodaeth a gallu gofyn y cwestiynau cywir a datrys problemau, gan ddangos barn gadarn a meddwl gwrthrychol.
Dylech fod yn hunan-ddechreuwr a all weithio'n annibynnol ac aros yn drefnus wrth gyfrannu at foeseg tîm cynhwysol, cydweithio â chydweithwyr i ddatrys problemau neu ddatblygu meddwl newydd
Hyfforddiant
Ar ddechrau eich cyflogaeth, bydd gofyn i chi gwblhau cyfnod o hyfforddiant a dysgu yn seiliedig ar waith llawn amser a fydd yn cymryd hyd at 16 wythnos ac a allai gael ei gyflwyno wyneb yn wyneb neu'n rhithiol, yn dibynnu ar y busnes. Bydd manylion hyn a'r cyfnod atgyfnerthu gofynnol yn cael eu trafod pan fyddwn yn cytuno ar ddyddiad cychwyn gyda chi.
Noder y gallai fod angen i ymgeiswyr rhan amser llwyddiannus weithio'n llawn amser yn ystod hyfforddiant.
Oriau gwaith
Mae contractau DWP yn seiliedig ar 42 awr yr wythnos ond byddwch yn gweithio 37 awr (o dan rai amgylchiadau 36 awr ar gyfer staff presennol y DWP sydd wedi'u lleoli yn Llundain).
Rhaid i bob cwsmer dderbyn gwasanaeth da yn gyson ni waeth sut neu pryd y maent yn penderfynu cysylltu â'r DWP felly: efallai y bydd gofyn i chi weithio ar unrhyw adeg rhwng 7.45am ac 8:00pm ar unrhyw ddiwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac 8.45 am i 5:00pm ar ddydd Sadwrn.
Bydd patrwm gweithio sy'n diwallu anghenion busnes yn cael ei drafod a'i gytuno unwaith y byddwch wedi dechrau, a allai, mewn rhai timau olygu rhai sifftiau hwyr a gofynion dydd Sadwrn, gan ystyried anghenion busnes ac amgylchiadau personol. Byddwch yn cael rhybudd ymlaen llaw o'ch amserlen bersonol.
Lleoliad Gweithio
Gallai'r swydd hon fod yn addas ar gyfer gweithio hybrid, ble mae gweithiwr yn gweithio rhan o'r wythnos yn eu swyddfa DWP a rhan o'r wythnos gartref. Mae hwn yn drefniant gwirfoddol, angytundebol a'ch swyddfa fydd eich man gwaith cytundebol. Bydd nifer y diwrnodau y bydd unrhyw un yn gallu gweithio gartref yn cael eu pennu'n bennaf gan anghenion y busnes, ond bydd amgylchiadau personol ac amgylchiadau perthnasol eraill hefyd yn cael eu hystyried. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd unrhyw gyfleoedd i weithio hybrid, gan gynnwys a yw trefniant gweithio hybrid yn addas i chi, yn cael eu trafod gyda chi cyn i chi ddechrau yn eich swydd.
Gwneud Penderfyniadau
Y tu ôl i bob achos mae wyneb. . . .
Eich rôl fel Swyddog Gwneud Penderfyniadau fydd penderfynu ar hawl a chymhwysedd i fudd-daliadau, gan ystyried ystod eang o amgylchiadau cwsmeriaid.
Byddwch yn defnyddio eich barn i wneud penderfyniadau effeithiol ar achosion cymhleth, gan gynnwys meysydd fel asesiadau meddygol a phrofion preswylio yn y DU. Byddwch yn casglu tystiolaeth, yn archwilio'r ffeithiau ac yn ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol ym mhob achos. Mae gan Swyddog Gwneud Penderfyniadau y gallu a'r gwytnwch i ymdrin â sefyllfaoedd sensitif a heriol gydag ystod amrywiol o gwsmeriaid, gan ystyried y person y tu ôl i'r penderfyniad bob amser.
Mae'r rolau hyn yn cefnogi cyflwyno Credyd Cynhwysol yn ogystal â rhai meysydd eraill o'n busnes. Byddwch yn rhan o dîm lle gallwch fod yn chi eich hunain, teimlo eich bod yn cael eich cefnogi, eich grymuso, eich gwerthfawrogi a'ch parchu.
Mae cyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch doniau gyda mynediad at ystod o ddysgu technegol a phroffesiynol i'ch galluogi i adeiladu gyrfa gwerth chweil.
Os ydych yn angerddol am wasanaeth cwsmeriaid a chefnogi pobl fregus ac yn chwilio am yrfa sy'n eich herio, gyda digon o gyfle i ddatblygu, dyma'r rôl i chi.
Darganfyddwch fwy am rôl ein Asiant Credyd Cynhwysol a sut maen nhw'n helpu i symud cwsmeriaid i mewn i'r gwaith Diwrnod ym Mywyd Swyddog Penderfyniadau (Cliciwch ar y gosodiadau eicon cog, dewiswch isdeitlau Saesneg / Cymraeg)Trosolwg o’r Rôl
Mae rôl y Swyddog Gwneud Penderfyniadau yn rôl allweddol i bobl sydd ag agwedd gadarnhaol, awydd am wasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Byddwch yn defnyddio ac yn datblygu sgiliau dylanwadu a chyfathrebu ar draws grŵp amrywiol o gwsmeriaid ac yn cydlynu gwybodaeth gymhleth er mwyn gwneud penderfyniadau cywir ar geisiadau budd-daliadau.
Byddwch yn casglu ac yn archwilio ffeithiau, yn ymwneud â'r farchnad lafur, hawl i fudd-daliadau, Asesiadau Gallu i Weithio (WCAs), Profion Preswylio Arferol (HRTs), ailystyriaeth ac apeliadau ac yn dadansoddi a dehongli gwybodaeth yn feirniadol. Bydd y data a gasglwch yn eich cefnogi i wneud penderfyniadau ar achosion cymhleth yn unol â deddfwriaeth gan ddiweddaru cyfrifon cwsmeriaid.
Mewn rôl mor allweddol bydd angen sgiliau cyfathrebu cryf arnoch ar lafar ac yn ddigidol er mwyn trafod ac egluro penderfyniadau i hawlwyr sydd ag ystod o anghenion amrywiol. Bydd angen i chi hefyd ddangos gwytnwch wrth wynebu sefyllfaoedd sensitif a heriol a sicrhau bod rhwydweithiau mewnol yn ymwybodol o unrhyw broblemau.
Bydd gennych y gallu i flaenoriaethu eich llwyth achos er mwyn cwblhau adeiladu gwybodaeth gref am ddeddfwriaeth DWP, polisi'r farchnad lafur a phrosesau Gwneud Penderfyniadau ac Apeliadau (DMA) i gefnogi Gwneud Penderfyniadau.
Pwy rydym yn chwilio amdanynt
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gwrando a bod yn empathetig gyda’r gallu i ddeall gwybodaeth gymhleth a defnyddio barn gadarn a meddwl gwrthrychol. Bydd angen i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig i ystod eang o gwsmeriaid amrywiol a gallu egluro penderfyniadau yn glir, mewn ffordd resymegol.
Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol pan fo angen, gan gydweithio â chydweithwyr i rannu gwybodaeth, datrys problemau a datblygu ffordd newydd o feddwl.
Hyfforddiant
Ar ddechrau eich cyflogaeth, bydd gofyn i chi gwblhau cyfnod o hyfforddiant a dysgu yn seiliedig ar waith llawn amser a fydd yn cymryd hyd at 12 wythnos.
Noder y gallai fod angen i ymgeiswyr rhan amser llwyddiannus weithio'n llawn amser am nifer o wythnosau i gwblhau ac atgyfnerthu’r hyfforddiant.
Oriau gwaith
Mae contractau DWP yn seiliedig ar 42 awr yr wythnos ond byddwch yn gweithio 37 awr (o dan rai amgylchiadau 36 awr ar gyfer staff presennol y DWP sydd wedi'u lleoli yn Llundain).
Rhaid i bob cwsmer dderbyn gwasanaeth da yn gyson ni waeth sut neu pryd y maent yn penderfynu cysylltu â'r DWP felly: efallai y bydd gofyn i chi weithio ar unrhyw adeg rhwng 7.45am ac 8:00pm ar unrhyw ddiwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac 8.45 am i 5:00pm ar ddydd Sadwrn.
Bydd patrwm gweithio sy'n diwallu anghenion busnes yn cael ei drafod a'i gytuno unwaith y byddwch wedi dechrau, a allai, mewn rhai timau olygu rhai sifftiau hwyr a gofynion dydd Sadwrn, gan ystyried anghenion busnes ac amgylchiadau personol. Byddwch yn cael rhybudd ymlaen llaw o'ch amserlen bersonol.
Lleoliad Gweithio
Gallai'r swydd hon fod yn addas ar gyfer gweithio hybrid, ble mae gweithiwr yn gweithio rhan o'r wythnos yn eu swyddfa DWP a rhan o'r wythnos gartref. Mae hwn yn drefniant gwirfoddol, angytundebol a'ch swyddfa fydd eich man gwaith cytundebol. Bydd nifer y diwrnodau y bydd unrhyw un yn gallu gweithio gartref yn cael eu pennu'n bennaf gan anghenion y busnes, ond bydd amgylchiadau personol ac amgylchiadau perthnasol eraill hefyd yn cael eu hystyried. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd unrhyw gyfleoedd i weithio hybrid, gan gynnwys a yw trefniant gweithio hybrid yn addas i chi, yn cael eu trafod gyda chi cyn i chi ddechrau yn eich swydd.
Gwrth-dwyll, Cydymffurfiaeth a Dyled (CFCD)
Ymladd twyll yn y system les ....... Dyna yw ein pwrpas
Mae Gwrth-dwyll, Cydymffurfiaeth a Dyled (CFCD) yn eistedd wrth galon Gweithrediadau'r DWP, nod cyffredinol CFCD yw atal twyll, gwall a dyled rhag mynd i mewn i'r systemau budd-daliadau, lle na ellir ei atal, ei ganfod a'i gywiro cyn gynted â phosibl, a chasglu dyled lle mae wedi digwydd.
Mae CFCD yn gweithio ar draws DWP a'r Llywodraeth, gan ddylanwadu ar strategaeth a pholisi, gan sicrhau bod atal twyll, gwall a dyled wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae yna nifer o swyddogaethau, sy'n cyfuno i ffurfio Gwrth-dwyll, Cydymffurfio a Dyled (CFCD), i frwydro yn erbyn twyll a gwall ac adennill dyled gyda thosturi.
Gyda dros 10,000 o bobl mae ein gorchwyl yn cyrraedd ar draws DWP gyfan, ac o fewn Gwrth-dwyll, Cydymffurfio a Dyled (CFCD) mae rolau amrywiol, cyffrous a heriol ar gael sy'n cefnogi ein nod i leihau lefel twyll, gwall a dyled o fewn y system fudd-daliadau, i ddiogelu'r pwrs cyhoeddus, yn ogystal ag amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas rhag cael eu hecsbloetio, sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r rhain yn cynnwys:
Darganfod mwy am weithio mewn Cydymffurfiaeth Gwrth-dwyll a Dyled Diwrnod Ym Mywyd Gwrth Dwyll Cydymffurfiaeth a Dyled Cliciwch ar y gosodiadau eicon cog, dewiswch isdeitlau Cymraeg/Saesneg
Trosolwg o’r Rôl
Mae pob diwrnod yn CFCD yn ddiwrnod dysgu ac anaml y bydd ddau ddiwrnod yr un fath. Mae hyn yn gwneud ein swyddi yn wahanol i eraill yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, ond yn ein cadw ar rheng flaen o gweithrediadau, gan ein galluogi i ddarparu gwasanaeth rhagorol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Os ydych chi'n 'barod am yr her' ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth mewn tîm bywiog, amrywiol a chroesawgar, yna byddem yn croesawu eich cais.
O fewn lle gwych i weithio, mae'r tîm arweinyddiaeth yn angerddol am ddenu'r dalent orau wrth feithrin a gwerthfawrogi cydweithwyr newydd a phresennol i fod y gorau y gallent fod. Rydym yn chwilio am bobl sy'n gallu dangos ein gwerthoedd a'n hymrwymiad sy'n seiliedig ar gydweithredu, gwytnwch a chynwysoldeb ac a all fod yn arloesol, yn addasadwy ac yn hyblyg.
Rydym am i chi fod yn gyfforddus yn herio'r norm a dod o hyd i atebion beiddgar a deinamig sy'n cefnogi ein gwerthoedd ac yn galluogi cydweithwyr i ddisgleirio ym mha bynnag rôl y maent yn ei wneud.
Os ydych chi am ymuno â rhywle sy'n cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, lle gallwch ddysgu sgiliau newydd a gwneud cynnydd yn eich gyrfa, yna CFCD yw'r lle i chi.
Dewch i ymuno â thîm CFCD heddiw!
Hyfforddiant
Mae'r DWP wedi ymrwymo i'ch datblygiad llwyddiannus a bydd yn rhoi'r offer i chi adeiladu gyrfa fel gweithiwr proffesiynol gwych a chymwys.
Pan fyddwch yn ymuno â CFCD byddwch yn cwblhau cyfnod cynhwysfawr o hyfforddiant llawn amser yn y swyddfa a dysgu yn y gwaith. Gall gofynion fod yn wahanol oherwydd y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â phob un o'r rolau. Mae mwy o fanylion ar gael ar yr hysbyseb swydd lawn.
Bydd hyn yn rhoi'r offer a'r wybodaeth i chi fod yn llwyddiannus yn eich rôl a ffynnu gyda ni.
Oriau Gwaith
Mae contractau DWP yn seiliedig ar 42 awr yr wythnos ond byddwch yn gweithio 37 awr (o dan rai amgylchiadau 36 awr ar gyfer staff presennol y DWP sydd wedi'u lleoli yn Llundain).
Rhaid i bob cwsmer dderbyn gwasanaeth da yn gyson ni waeth sut neu pryd y maent yn penderfynu cysylltu â'r DWP felly: efallai y bydd gofyn i chi weithio ar unrhyw adeg rhwng 7.45am ac 8:00pm ar unrhyw ddiwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac 8.45 am i 5:00pm ar ddydd Sadwrn.
Bydd patrwm gweithio sy'n diwallu anghenion busnes yn cael ei drafod a'i gytuno unwaith y byddwch wedi dechrau, a allai, mewn rhai timau olygu rhai sifftiau hwyr a gofynion dydd Sadwrn, gan ystyried anghenion busnes ac amgylchiadau personol. Byddwch yn cael rhybudd ymlaen llaw o'ch amserlen bersonol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o batrymau gwaith sy'n addas i'ch ffordd o fyw. Gallwch ddewis cael eich contractio i weithio'n rhan-amser neu'n llawn amser o fewn ein horiau gweithredu safonol. Gellir gofyn am batrymau gweithio hyblyg a byddant yn cael eu hystyried yn unigol. Mae'n dibynnu ar yr ardal fusnes os gellir darparu hyn.
Lleoliad Gweithio
Gallai'r swydd hon fod yn addas ar gyfer gweithio hybrid, ble mae gweithiwr yn gweithio rhan o'r wythnos yn eu swyddfa DWP a rhan o'r wythnos gartref. Mae hwn yn drefniant gwirfoddol, angytundebol a'ch swyddfa fydd eich man gwaith cytundebol. Bydd nifer y diwrnodau y bydd unrhyw un yn gallu gweithio gartref yn cael eu pennu'n bennaf gan anghenion y busnes, ond bydd amgylchiadau personol ac amgylchiadau perthnasol eraill hefyd yn cael eu hystyried. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd unrhyw gyfleoedd i weithio hybrid, gan gynnwys a yw trefniant gweithio hybrid yn addas i chi, yn cael eu trafod gyda chi cyn i chi ddechrau yn eich swydd.
Gwasanaethau Ymddeol
Cefnogi'r rhai sydd wedi ein cefnogi ni. . . .
Mae'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Ymddeol yn darparu pensiynau, budd-daliadau a gwybodaeth am ymddeol i bensiynwyr presennol a rhai'r dyfodol yn y DU a thramor.
Mae hyn yn cynnwys;
- Gweinyddu ceisiadau Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn, ar gyfer pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, yn y DU a thramor.
- Darparu Gwasanaethau Profedigaeth yn ogystal â thaliadau blynyddol Tanwydd Gaeaf a Thywydd Oer.
- Rydym hefyd yn gyfrifol am weinyddu llawer o fudd-daliadau anabledd ac iechyd fel Lwfans Gweini, Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gofalwr a Thaliad Annibyniaeth Personol.
Gyda'r nifer fwyaf o gwsmeriaid yn y DWP rydym yn cynnig gwasanaeth digidol i'n cwsmeriaid. Mae'r gwasanaethau hyn yn hunanwasanaeth ac er hwylustod i gwsmeriaid mae ar gael 24/7.
Darganfod mwy am weithio yn y Gwasanaethau Ymddeol Diwrnod ym Mywyd Gweithio mewn Gwasanaethau Ymddeol (youtube.com). Cliciwch ar y gosodiadau eicon cog, dewiswch isdeitlau Cymraeg/Saesneg
Trosolwg o Rolau
1.Swyddog Gwneud Penderfyniadau
Beth fyddwch chi'n ei wneud:
- Cymryd perchnogaeth i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, rhyngweithio bob dydd dros y ffôn, gan addasu eich ymddygiad i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid amrywiol.
- Ystyried achos pob cwsmer yn ei gyfanrwydd, gan ganolbwyntio ar wneud y penderfyniad cywir ar yr adeg gywir.
- Gweithio gyda'n cwsmeriaid, eu cynrychiolwyr a/neu randdeiliaid, i ddarparu cymorth a chefnogaeth i ddatrys ymholiadau yn llwyddiannus, gan roi rhesymau clir ac esboniadwy dros eich penderfyniad, cael gwybodaeth ychwanegol lle bo angen ac atgyfeirio'n briodol.
- Defnyddio ystod o systemau cyfrifiadurol, teleffoni a llwyfannau digidol fel Microsoft Teams.
Hyfforddiant
Bydd gofyn i chi ymgymryd â hyfforddiant sy'n angenrheidiol er mwyn i chi gyflawni'ch rôl. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys hyfforddiant technegol am hyd at 4 wythnos pan fyddwch yn ymuno gyntaf ac yna cyfnod o atgyfnerthu. Bydd hyn yn cael ei ddarparu am ddim i chi.
Noder y gallai fod angen i ymgeiswyr rhan amser llwyddiannus weithio'n llawn amser i gwblhau ac atgyfnerthu hyfforddiant. Rydym eisiau i'n gweithwyr gyrraedd eu llawn botensial, a dyna pam rydym yn cynnig ystod o wahanol gyfleoedd fel cynlluniau datblygu ac amrywiaeth o gyrsiau y gellir eu cyrchu'n rhithiol neu'n bersonol, h.y., Mentora, Rhaglen Arweinyddiaeth Proffesiwn Cyflenwi Gweithredol, Prentisiaethau.
2.Arweinydd Tîm
Ydych chi'n rhywun sy'n arweinydd, yn ysgogydd ac yn gallu sicrhau bod eich tîm yn gwbl fedrus i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a chyflawni perfformiad effeithiol? Yna mae'r swydd hon yn swnio'n iawn i chi!
Mae ein Arweinwyr Tîm yn arwain tîm o gydweithwyr ar radd Swyddog Gweinyddol o fewn un o linellau cynnyrch budd-dal y Gwasanaeth Ymddeol.
Beth fyddwch chi'n ei wneud:
- Darparu arweinyddiaeth weladwy a chryf, weithiau o bell, gan sicrhau bod eich tîm bob amser yn darparu lefelau rhagorol o wasanaeth i gwsmeriaid, gan roi'r cwsmer yn gyntaf ym mhopeth a wnawn!
- Rheoli llif gwaith trwy lwyfannau digidol, gan gynyddu cynhyrchiant i'r eithaf.
- Ysgogi ac annog timau, hyrwyddo cynwysoldeb, darparu hyfforddiant a chefnogaeth 1-2-1 i adeiladu gallu a hyder ein pobl.
- Gweithio ar y cyd ag ystod o randdeiliaid, i feithrin perthnasoedd a gyrru ein hagenda o ansawdd yn ei blaen.
- Ysgogi agenda newid a moderneiddio DWP mewn ffordd gadarnhaol i sicrhau cysondeb a gwelliannau i wasanaethau
Hyfforddiant
Bydd gofyn i chi ymgymryd â hyfforddiant sy'n angenrheidiol er mwyn i chi gyflawni'ch rôl. Bydd hyfforddiant yn parhau nes eich bod yn teimlo'n hyderus yn y rôl. Bydd hyn yn cael ei ddarparu am ddim i chi.
Noder y gallai fod angen i ymgeiswyr rhan amser llwyddiannus weithio'n llawn amser i gwblhau ac atgyfnerthu hyfforddiant. Rydym eisiau i'n gweithwyr gyrraedd eu llawn botensial, a dyna pam rydym yn cynnig ystod o wahanol gyfleoedd fel cynlluniau datblygu ac amrywiaeth o gyrsiau y gellir eu cyrchu'n rhithiol neu'n bersonol, h.y., Mentora, Rhaglen Arweinyddiaeth Proffesiwn Cyflenwi Gweithredol, Prentisiaethau.
Oriau gwaith
Mae contractau DWP yn seiliedig ar 42 awr yr wythnos ond byddwch yn gweithio 37 awr (o dan rai amgylchiadau 36 awr ar gyfer staff presennol y DWP sydd wedi'u lleoli yn Llundain).
Rhaid i bob cwsmer dderbyn gwasanaeth da yn gyson ni waeth sut neu pryd y maent yn penderfynu cysylltu â'r DWP felly: efallai y bydd gofyn i chi weithio ar unrhyw adeg rhwng 7.45am ac 8:00pm ar unrhyw ddiwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac 8.45 am i 5:00pm ar ddydd Sadwrn.
Bydd patrwm gweithio sy'n diwallu anghenion busnes yn cael ei drafod a'i gytuno unwaith y byddwch wedi dechrau, a allai, mewn rhai timau olygu rhai sifftiau hwyr a gofynion dydd Sadwrn, gan ystyried anghenion busnes ac amgylchiadau personol. Byddwch yn cael rhybudd ymlaen llaw o'ch amserlen bersonol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o batrymau gwaith sy'n addas i'ch ffordd o fyw. Gallwch ddewis cael eich contractio i weithio'n rhan-amser neu'n llawn amser o fewn ein horiau gweithredu safonol. Gellir gofyn am batrymau gweithio hyblyg a byddant yn cael eu hystyried ar sail unigol. Mae'n dibynnu ar yr ardal fusnes os gellir darparu hyn.