Close
Hafan Y Rolau Swyddi gwag Trosolwg o'r Broses Cwestiynau cyffredin English

Defnyddio’r Wefan Hon

Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am http://www.dwpjobs-eorecruitment-microsite.co.uk.

Mae unrhyw ddolenni i geisiadau am swyddi yn mynd i wasanaeth gwneud cais gwahanol sy’n cael ei reoli gan SSCL. SSCL sy’n gyfrifol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn.

Rydym am i gyn gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio http://www.dwpjobs-eorecruitment-microsite.co.uk.

Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd

Sut i ofyn am gynnwys mewn ffurf hygyrch

Os ydych angen gwybodaeth mewn ffurf gwahanol, cysylltwch â ni yn DWP-Customer_Hub@gov.sscl.com a dywedwch wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a chyfeiriad e-bost
  • y ffurf rydych ei angen, er enghraifft, CD sain, braille, BSL neu brint bras, PD hygyrch

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydynt yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â DWP-Customer_Hub@gov.sscl.com gan roi manylion unrhyw fater ac unrhyw dechnoleg cymorth rydych yn eu defnyddio.

Proses orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi rheoliadau hygyrchedd. Os na fyddwch yn fodlon o ran sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2). Mae'r wefan hon yn rhannol gydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y materion a restrir isod sydd ddim yn cydymffurfio.

Sut gwnaethom brofi’r wefan hon

Profwyd y wefan ddiwethaf ar 23/11/22. Mae’r wefan a brofwyd ar gael yn http://www.dwpjobs-eorecruitment-microsite.co.uk/

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Byddwn yn edrych ar hygyrchedd y wefan yn barhaus ac yn cywirio unrhyw faterion hygyrchedd yr hysbysir i ni

Paratowyd y datganiad hwn ar 23/11/22.