Trosolwg o'r Broses
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod am y broses ymgeisio:-
Ffurflen Gais
Dylech gwblhau bob rhan o'r ffurflen gais.
I ddechrau, gofynnir i chi os oes gennych yr hawl i weithio yn y DU a bodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil a’ch manylion personol. (Os byddwch yn llwyddiannus ar ôl cyfweliad gofynnir i chi ddarparu dogfennaeth i brofi hyn. Bydd hyn yn cynnwys prawf o bwy ydych, gan gynnwys ID gyda llun neu basbort biometrig cyfatebol/cod rhannu a phrawf o gyfeiriad).
Mae'r swyddi hyn yn agored yn fras i'r grwpiau canlynol:
- Gwladolion y DU
- Gwladolion Gweriniaeth Iwerddon
- Gwladolion gwledydd y Gymanwlad sydd â'r hawl i weithio yn y DU
- Gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau o deulu'r cenhedloedd hynny sydd â statws sefydlog neu ragsefydlog o dan Gynllun Setliad yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families?_ga=2.26790964.884827562.1671461149-344924071.1670604899)
- Gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau o deulu’r cenhedloedd hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws preswylydd sefydlog neu ragsefydlog yn unol â gofynion Cynllun Setliad yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families?_ga=2.26790964.884827562.1671461149-344924071.1670604899. Pan fo’r cais EUSS hwnnw wedi’i dderbyn fel un dilys, fel y dangosir gan dystysgrif cais, gallai methiant person o’r fath i gael statws EUSS arwain at wrthod y cais am swydd neu at derfynu’r contract.
- Gwladolion â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020
- Gwladolion Twrcaidd, neu aelodau penodol o deulu gwladolion Twrcaidd, sydd wedi cronni'r hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
I gael rhagor o wybodaeth am ofynion cenedligrwydd swyddi a’r hawl i weithio yn y DU, gweler y Gwasanaeth Sifil
Rheolau cenedligrwydd (yn agor mewn ffenestr newydd) https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules a
rheolau Fisâu a Mewnfudo y DU (yn agor mewn ffenestr newydd) https://www.gov.uk/government/organisations/uk-visas-and-immigration
Ymgyrchoedd Mewnol a Thrawslywodraethol
Os ydych yn gwneud cais am rôl fewnol neu rôl drawslywodraethol, mae meini prawf cymhwysedd ychwanegol y bydd angen i chi eu bodloni. Mae’r rhain yn:
- Bod yn was sifil cyfredol, neu’n cael eich cyflogi gan gorff cyhoeddus sydd wedi’u achredu gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil.
- Rydych yn aelod o asiantaeth sy’n gweithio mewn adran lywodraeth
- Rydych yn cael eich cyflogi gan sefydliad allanol sydd wedi’i gontractio i weithio mewn rolau llywodraeth
- Rydych chi'n gontractwr hunangyflogedig sy'n gweithio mewn adran llywodraeth
- Cael eich cyflogi ar gontract Teg ac Agored.
- Wedi llwyddo i gwblhau’r cyfnod prawf.
- Peidio â bod yn y cyfnod adolygu yn dilyn rhybudd am berfformiad gwael.
- Peidio â bod yn y cyfnod gwella yn dilyn rhybudd am bresenoldeb anfoddhaol
- Peidio â chael rhybudd disgyblu gweithredol am gamymddwyn gyda chyfyngiadau ar ddyletswyddau, gan gynnwys gwaharddiad ar ddyrchafiad.
KIV:NID yw pob aelod o staff sy'n gweithio mewn adran lywodraethol neu gorff cyhoeddus nad yw'n adrannol wedi'i achredu yn cael eu hystyried yn was sifil. Os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i'ch amgylchiadau, yna nid ydych yn gymwys.
Os ydych wedi bod yn destun camau disgyblu ac os oes gennych rybudd ysgrifenedig byw ar yr adeg y byddwch yn gwneud eich cais gyda chyfyngiad ar ddyletswyddau, gan gynnwys gwaharddiad ar ddyrchafiad, nid ydych yn gymwys i wneud cais am swydd ar ddyrchafiad.
Os nad ydych yn siŵr a yw rhybudd yn dal yn fyw, dylech wirio’ch llythyr rhybudd. Bydd hwn yn dweud wrthych pa mor hir y bydd eich rhybudd yn parhau mewn grym ac yn nodi pryd mae’r rhybudd yn dechrau ac yn dod i ben.
Mae’n bwysig eich bod yn ateb y cwestiynau cymhwysedd yn gywir. Ar unrhyw adeg yn y broses, gan gynnwys unwaith yn y rôl, gall darparu gwybodaeth anghywir ynghylch cymhwysedd arwain at gamau disgyblu, gan gynnwys diswyddo.
Cyn gwneud cais am y swydd wag hon, dylai gweithwyr DWP presennol wirio a fyddai cais llwyddiannus yn arwain at newidiadau i'w telerau ac amodau cyflogaeth, e.e. symudedd, cyflog, lwfansau.
Bydd y rhai sydd ar delerau ac amodau TUPE/COSoP gwarchodedig sy'n gwneud cais am ddyrchafiad neu symudiad lefel barhaol gwirfoddol yn mabwysiadu Telerau ac Amodau'r DWP a gall hyn gael effaith wahanol ar gyflog a lwfansau. Adolygwch hyn cyn derbyn rôl.
Bydd Gweision Sifil a fyddai'n trosglwyddo i'r DWP o sefydliadau llywodraethol eraill, yn dilyn cais llwyddiannus, yn cymryd yn ganiataol bod telerau ac amodau cyflogaeth y DWP yn berthnasol ar y diwrnod y cânt eu postio, oni bai bod y DWP wedi nodi fel arall yn ysgrifenedig. Bydd derbyn swydd yn golygu derbyn telerau ac amodau diwygiedig.
Datganiad Personol
Mae DWP yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant - GOV.UK (www.gov.uk) Os bydd angen datganiad personol arnom, byddwn yn gofyn i chi ddarparu hwn gan ddefnyddio 500 gair sy'n dangos eich gallu yn erbyn un o'r ymddygiadau ar lefel Swyddog Gweithredol (EO).
Unwaith y bydd cais wedi'i gyflwyno, ni ellir ei ddiwygio. Dim ond unwaith y dylech wneud cais am unrhyw ymgyrch / hysbyseb benodol, bydd unrhyw geisiadau dyblyg yn cael eu tynnu'n ôl.
Anonymeiddio
Dylech ddileu unrhyw fanylion personol fel enw a manylion cyswllt neu bydd eich cais yn cael ei dynnu'n ôl.
Uniondeb, llên-ladrad, Egwyddorion y Gwasanaeth Sifil a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Mae'r Gwasanaeth Sifil yn gwerthfawrogi gonestrwydd ac uniondeb ac yn disgwyl i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r egwyddorion hyn.
Gwnewch yn siŵr bod yr holl enghreifftiau a ddarperir yn eich cais yn cael eu cymryd yn uniongyrchol o'ch profiad eich hun a'ch bod yn disgrifio'r enghreifftiau yn eich geiriau eich hun.
Gall enghreifftiau o lên-ladrad gynnwys:
- Cyflwyno gwaith, syniadau a phrofiad eraill fel eich un eich hun
- Copïo cynnwys neu atebion o ffynhonnell ar-lein neu gyhoeddedig nad yw'n eich hun
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn offeryn defnyddiol i gefnogi'ch cais, fodd bynnag, rhaid i'r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac wedi'u cymryd yn uniongyrchol o'ch profiad eich hun. Lle mae llên-ladrad wedi'i nodi (cyflwyno syniadau a phrofiadau eraill, neu wedi'i gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich un chi) gellir tynnu ceisiadau yn ôl a gall ymgeiswyr mewnol fod yn destun i gamau disgyblu. Gweler ein canllawiau ymgeiswyr (agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o wybodaeth am ddefnydd priodol ac amhriodol.
Prawf Barn Sefyllfaol
Ar ôl cwblhau a chyflwyno'ch cais yn llwyddiannus, efallai y cewch eich gwahodd i sefyll Prawf Barn Sefyllfaol. Mae'r Prawf Barn Sefyllfaol yn ymarfer wedi'i amseru sydd wedi'i gynllunio i weld sut byddech chi'n ymateb yn naturiol mewn sefyllfaoedd a sut byddech chi'n cyfathrebu ag eraill. Mae'n cynnwys senarios amlddewis. Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad sy'n benodol i'r Adran Gwaith a Phensiynau arnoch i allu cwblhau'r ymarfer, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad penodol arnoch yn ymwneud â'r senario a gyflwynir.
Dylech ganiatáu 30-45 munud, dylech allu ei gwblhau mewn un eisteddiad a rhaid iddo fod yn eich gwaith chi. Gellir gofyn am addasiadau rhesymol os oes gan ymgeisydd ofynion penodol oherwydd anabledd. Unwaith y byddwch yn cyflwyno eich ateb ar ddiwedd y prawf ni fyddwch yn gallu newid na diweddaru eich ymateb. Os na fyddwch yn cwblhau ac yn cyflwyno'r prawf cyn y dyddiad cau, efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen.
Bydd un prawf fesul swydd wag ac os byddwch yn gwneud cais am swyddi gwag lluosog yna bydd angen i chi sefyll y prawf ar-lein ar gyfer pob un. Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr eich bod mewn amgylchedd addas gyda chysylltiad rhyngrwyd sefydlog ac nad oes unrhyw broblemau gyda'ch dyfais.
Rhaid i chi basio'r Prawf Barn Sefyllfaol i symud ymlaen i'ch tystiolaeth ysgrifenedig gael ei sifftio.os ydym wedi gofyn am ddatganiad personol. Byddwch yn derbyn hysbysiad i'ch hysbysu eich bod wedi symud ymlaen i'r cam nesaf
Os nad ydym wedi gofyn am ddatganiad personol, bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y marc pasio y cytunwyd arno yn cael eu gwahodd i gyfweliad
Mae sgorio SJT yn broses gwbl awtomataidd yn seiliedig ar swm eich ymatebion unigol.
Gall y sgôr meincnod amrywio o swydd wag i swydd wag gan ei bod yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae'r rhain yn cynnwys nifer yr ymgeiswyr a wnaeth gais am yr ymgyrch, yr ystod o sgoriau a gyflawnwyd a nifer y swyddi gwag sydd ar gael o fewn yr ymgyrch.
Os oes angen addasiad rhesymol arnoch neu rydych yn cael unrhyw drafferthion technegol gallwch gysylltu â Hwb Cwsmeriaid SSCL:
- Sgwrs Byw
- dwp-customer_hub@resourcing.soprasteria.co.uk
- 0345 241 5365
Sifft Datganiad Personol
Os byddwch yn llwyddo yn y Prawf Barn Sefyllfaol a rydym wedi gofyn am ddatganiad personol, caiff hwn nawr ei adolygu a’i sifftio. Bydd canlyniadau'r sifft yn cael eu rhyddhau unwaith y bydd yr holl geisiadau wedi'u hadolygu. Byddwch yn derbyn hysbysiad i roi gwybod a ydych wedi bod yn llwyddiannus ac wedi symud ymlaen i'r cam nesaf.
Sylwch, ni ddarperir adborth yn ystod y cam sifftio ond byddwch yn derbyn eich sgôr sifftio.
Yn dibynnu ar nifer y ceisiadau, efallai y byddwn yn symud yr holl ymgeiswyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y prawf ar-lein ymlaen i gyfweliad heb asesu tystiolaeth ysgrifenedig y cais.
Os ydych wedi pasio'r camau dethol cychwynnol, dylech gael eich gwahodd i gyfweliad wedi'i recordio ymlaen llaw.
Y Cyfweliad (Cyfweliad Fideo wedi'i Recordio ymlaen llaw)
Os cynhelir eich cyfweliad trwy gyfweliad fideo wedi'i recordio ymlaen llaw a bydd gennych 5 diwrnod o dderbyn y gwahoddiad e-bost sy'n cynnwys y ddolen mynediad ac unrhyw wybodaeth sydd ei hangen. Byddwch hefyd yn derbyn hysbysiad yn eich Canolfan Ymgeisio a thrwy SMS os gwnaethoch alluogi'r opsiwn cyfathrebu hwn gyda ni.
Byddwch yn gweld recordiad o rywun yn gofyn cwestiynau a bydd gennych amser penodol i ymateb. Gofynnir cwestiynau i chi yn seiliedig ar broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Gall hyn gynnwys cwestiynau Ymddygiad ac, ar gyfer rhai rolau, bydd hefyd yn cynnwys cwestiynau Cryfder. Cyfeiriwch at yr hysbyseb am fanylion y gofynion penodol.
Sicrhewch eich bod yn defnyddio porwr gwe cyfredol fel Google Chrome neu Microsoft Edge neu borwr cyfatebol. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod gennych chi gysylltiad rhyngrwyd sefydlog ac offer profi cyn i chi ddechrau sicrhau bod ansawdd llun/sain yn addas. Bydd gennych amser i ddod yn gyfarwydd â'r platfform a chael cwestiwn ymarfer. Yn yr achos annhebygol y byddwch chi'n profi unrhyw faterion technegol yn ystod eich Cyfweliad, rhowch wybod am rhain yn brydlon, cyn i'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau eich Cyfweliad Fideo wedi'i Recordio ymlaen llaw ddod i ben fel y gallwn eu cywiro cyn i'ch cais gael ei dynnu'n ôl. Defnyddiwch eich manylion cyswllt [ID y cais ac enw defnyddiwr] ym mhob gohebiaeth.
Ar gyfer cwestiynau Ymddygiad, gofynnir cwestiwn i chi a rhoddir 1 munud i ystyried eich ymateb a 3 munud i roi eich ymateb. Ar gyfer cwestiynau Cryfder, gofynnir cwestiwn i chi a byddwch yn symud ymlaen yn syth i gyfnod o 2 funud a 30 eiliad i roi eich ymateb. Mae'n hanfodol y gallwn eich gweld yn glir neu ni fyddwn yn asesu eich cyfweliad gan y bydd hyn yn cadarnhau pwy ydych chi.
Os ydych wedi cwblhau eich ymateb a bod amser ar ôl, gallwch symud ymlaen yn gyflym at y cwestiwn nesaf.
Uniondeb, llên-ladrad, Egwyddorion y Gwasanaeth Sifil a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Mae'r Gwasanaeth Sifil yn gwerthfawrogi gonestrwydd ac uniondeb ac yn disgwyl i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r egwyddorion hyn.
Gwnewch yn siŵr bod yr holl enghreifftiau a ddarperir yn eich cais yn cael eu cymryd yn uniongyrchol o'ch profiad eich hun a'ch bod yn disgrifio'r enghreifftiau yn eich geiriau eich hun.
Rhaid i'r dystiolaeth a roddwch ymwneud â'ch profiadau eich hun. Os canfyddir tystiolaeth o lên-ladrad, neu rannu cwestiynau, gwybodaeth neu atebion trwy gydol unrhyw ran o'r broses ddethol, caiff eich cais ei dynnu'n ôl. Gall enghreifftiau o lên-ladrad gynnwys:
- Cyflwyno gwaith, syniadau a phrofiad eraill fel eich un eich hun
- Copïo cynnwys neu atebion o ffynhonnell ar-lein neu gyhoeddedig nad yw'n eich hun
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn offeryn defnyddiol i gefnogi'ch cais, fodd bynnag, rhaid i'r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac wedi'u cymryd yn uniongyrchol o'ch profiad eich hun. Lle mae llên-ladrad wedi'i nodi (cyflwyno syniadau a phrofiadau eraill, neu wedi'i gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich un chi) gellir tynnu ceisiadau yn ôl a gall ymgeiswyr mewnol fod yn destun i gamau disgyblu. Gweler ein canllawiau ymgeiswyr (agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o wybodaeth am ddefnydd priodol ac amhriodol.
Gallwch ofyn am addasiad i'r cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw drwy gysylltu â Chanolfan Cwsmeriaid SSCL dwp-customer_hub@resourcing.soprasteria.co.uk Ffôn: 0345 241 5365.
Bydd eich cyfweliad wedi'i gwblhau yn cael ei asesu a byddwn yn cysylltu â chi gyda'ch canlyniad.
Y Cyfweliad (Cyfweliad Byw)
Os bydd eich cyfweliad yn cael ei gynnal drwy gyfweliad byw naill ai ar Teams neu wyneb yn wyneb, fe'ch gwahoddir i drefnu hwn yn eich Canolfan Olrhain Ymgeiswyr a bydd gennych ddewis o'r dyddiadau a'r amseroedd sydd ar gael.
Byddwch yn cael nodyn atgoffa o amser y cyfweliad sydd wedi'i drefnu a naill ai, dolen i gael mynediad i'r cyfweliad a manylion ar sut i gael mynediad i'r cyfweliad, neu os yw’n wyneb yn wyneb, manylion o ble i fynychu. Gofynnir i chi hefyd anfon llun i ddangos pwy ydych chi o leiaf 24 awr cyn eich cyfweliad a bydd disgwyl i chi ddangos hwn i'r panel ar ddechrau'r cyfarfod.
Ar ôl cwestiwn cyffredinol nad yw'n cael ei sgorio, gofynnir cwestiynau i chi yn seiliedig ar broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Gall hyn gynnwys cwestiynau Ymddygiad ac, ar gyfer rhai rolau, bydd hefyd yn cynnwys cwestiynau Cryfder. Cyfeiriwch at yr hysbyseb am fanylion y gofynion penodol.
Os yw'r cyfweliad drwy Teams, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio porwr gwe cyfredol fel Google Chrome neu Microsoft Edge neu borwr cyfatebol. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod gennych gysylltiad rhyngrwyd sefydlog a phrofi offer cyn i chi ddechrau i sicrhau bod ansawdd y llun/sain yn addas. Mae'n hanfodol y gallwn eich gweld a'ch clywed yn glir drwy gydol y cyfweliad a'ch bod mewn amgylchedd addas.
Yn yr achos annhebygol y byddwch yn profi unrhyw broblemau technegol dylech geisio gadael ac ailymuno â'r cyfarfod. Gall y panel drefnu i'ch cyfweliad gael ei aildrefnu i amser arall sydd ar gael, ond bydd angen i chi ddatrys y mater gan mai dim ond unwaith y gallwn ei aildrefnu. Os oes gennych broblemau technegol yn ystod eich cyfweliad, bydd y cyfweliad wedi’i ei aildrefnu OND yn ymdrin ag elfennau a gafodd eu methu yn y cyfweliad.
Os yw’ch cyfweliad yn wyneb yn wyneb, cynghorir i chi gyrraedd y lleoliad o leiaf 15 munud cyn amser eich cyfweliad.
Uniondeb, llên-ladrad, Egwyddorion y Gwasanaeth Sifil a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Mae'r Gwasanaeth Sifil yn gwerthfawrogi gonestrwydd ac uniondeb ac yn disgwyl i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r egwyddorion hyn.
Gwnewch yn siŵr bod yr holl enghreifftiau a ddarperir yn eich cais yn cael eu cymryd yn uniongyrchol o'ch profiad eich hun a'ch bod yn disgrifio'r enghreifftiau yn eich geiriau eich hun.
Gall enghreifftiau o lên-ladrad gynnwys:
- Cyflwyno gwaith, syniadau a phrofiad eraill fel eich un eich hun
- Copïo cynnwys neu atebion o ffynhonnell ar-lein neu gyhoeddedig nad yw'n eich hun
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn offeryn defnyddiol i gefnogi'ch cais, fodd bynnag, rhaid i'r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac wedi'u cymryd yn uniongyrchol o'ch profiad eich hun. Lle mae llên-ladrad wedi'i nodi (cyflwyno syniadau a phrofiadau eraill, neu wedi'i gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich un chi) gellir tynnu ceisiadau yn ôl a gall ymgeiswyr mewnol fod yn destun i gamau disgyblu. Gweler ein canllawiau ymgeiswyr (agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o wybodaeth am ddefnydd priodol ac amhriodol.
Gallwch ofyn am addasiad i'r cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw drwy gysylltu â Chanolfan Cwsmeriaid SSCL dwp-customer_hub@resourcing.soprasteria.co.uk Ffôn: 0345 241 5365.
Bydd eich cyfweliad wedi'i gwblhau yn cael ei asesu a byddwn yn cysylltu â chi gyda'ch canlyniad.
Rhestr Teilyngdod
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu rhoi ar restr teilyngdod a bydd cynigion yn cael eu gwneud mewn trefn teilyngdod llym gan ystyried dewisiadau lleoliad, lle bo hynny'n berthnasol.
Cynnig Dros Dro
Unwaith y gwneir cynnig dros dro, byddwn yn cadarnhau hyn drwy e-bost a bydd gennych 5 diwrnod i dderbyn y cynnig hwn. Os na fyddwch yn derbyn y cynnig dros dro o fewn 5 diwrnod, mae’n bosibl y caiff eich cynnig ei dynnu’n ôl. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth dderbyn eich cynnig, cysylltwch â'n tîm recriwtio am gymorth.
Rhestr Wrth Gefn
Efallai y cewch eich rhoi ar restr wrth gefn os yw eich cais yn llwyddiannus ond ni allwn gynnig swydd i chi ar unwaith, sylwch:
- Os ydych yn derbyn cynnig swydd, bydd disgwyl i chi dynnu'n ôl o unrhyw ymgyrchoedd byw eraill rydych wedi gwneud cais amdanynt, gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, ar y gradd yma.
- Os cynigir y rôl y gwnaethoch gais amdani, mewn lleoliad rydych wedi mynegi ffafriaeth ar ei gyfer, a'ch bod yn gwrthod y cynnig neu'n methu â dechrau swydd o fewn amser resymol, byddwch yn cael eich tynnu allan o'r ymgyrch a'ch tynnu oddi ar y rhestr wrth gefn, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol*.
- Os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig rôl neu leoliad amgen i'r hyn y gwnaethoch gais amdano yn wreiddiol, a'ch bod yn gwrthod y cynnig hwnnw, byddwch yn gallu aros ar y rhestr wrth gefn.
Gwiriadau Cyn Cyflogaeth (Ymgyrchoedd Allanol yn Unig)
Pan wneir cynnig o gyflogaeth, bydd angen i chi gwblhau gwiriadau cyn cyflogaeth neu fetio i brofi pwy ydych chi, ble rydych chi'n byw a'ch hawl i weithio yn y DU a'r Gwasanaeth Sifil.
Bydd angen i chi ddarparu dogfennau amrywiol i DWP i brofi pwy ydych chi a ble rydych chi'n byw. Gellir cynnal gwiriadau dogfennau naill ai drwy wiriadau digidol gan ddefnyddio Technoleg Dilysu Dogfen Hunaniaeth (IDVT) neu wiriad dogfen gyda llaw yn bersonol. Mae IDVT yn fath o dechnoleg sy'n gallu sefydlu dilysrwydd dogfennau a gyflwynir at ddibenion dilysu hunaniaeth. Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda'ch dogfennaeth, peidiwch ag oedi cyn gysylltu â ni.
Pan fyddwch yn llwyddo yn y cam cyntaf hwn, cynhelir gwiriadau pellach i gadarnhau cofnodion troseddol, iechyd a hanes cyflogaeth.
Bydd angen i chi ddarparu dogfennau i gefnogi'r gwiriadau hyn a bydd rhestr o ddogfennau adnabod wedi’i atodi i’r hysbyseb. Er mwyn sicrhau bod gennych yr holl ddogfennaeth gywir, defnyddiwch ein gwiriwr dogfennau adnabod a sicrhewch eich bod yn darparu'r ddogfennaeth y gofynnir amdani o fewn 48 awr o dderbyn y cais.
Os byddwch yn pasio'r gwiriadau ID a Hawl i Weithio, mae posibilrwydd y gallem gyflymu eich dyddiad dechrau a gallem gynnig apwyntiad amodol i chi. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn gallu dechrau yn y swydd cyn i rai gwiriadau diogelwch a phersonél gael eu cwblhau, fodd bynnag byddwch yn ymwybodol;
- Os byddwch yn methu'r gwiriadau bydd eich cyflogaeth yn cael ei therfynu ar unwaith
- Mae hyn yn wirfoddol a gallwch aros i sieciau glirio os yw'n well gennych
- Mae'n bwysig os byddwch yn derbyn apwyntiad amodol eich bod yn dal i ymateb i geisiadau am wybodaeth i glirio sieciau cyn gynted â phosibl
Byddwn hefyd yn gwirio'r Gronfa Ddata Twyll Mewnol (IFD). Gwrthodir cyflogaeth am fanylion unrhyw ymgeisydd a gedwir ar y IFD. Nid ydych yn gymwys i wneud cais am rôl o fewn y Gwasanaeth Sifil os gwneir y cais o fewn cyfnod o 5 mlynedd yn dilyn diswyddiad am gyflawni twyll mewnol yn erbyn y llywodraeth.
Pan ofynnir i chi ddarparu dogfennaeth yn ystod y broses fetio o fewn y platfform ymgeisio, byddwch hefyd yn derbyn e-bost. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r camau gweithredu gofynnol. Darparwch wybodaeth ac unrhyw ddogfen y gofynnir amdani o fewn yr amserlen a roddwyd. Gall methu â gwneud hynny arwain at dynnu eich cais yn ôl.
Ar gyfer rolau yn y Gwrth-dwyll Cydymffurfiaeth a Dyled (CFCD) efallai y bydd gwiriadau ychwanegol oherwydd efallai y bydd angen cliriad diogelwch uwch arnoch.
Gwiriadau Cyn Cyflogaeth (Ymgyrchoedd Trawslywodraethol)
Pan gynigir cyflogaeth, bydd angen i chi gwblhau gwiriadau cyn-gyflogaeth neu wiriadau cefndir i brofi pwy ydych chi, ble rydych chi'n byw a'ch hawl i weithio yn y DU a'r Gwasanaeth Sifil.
Bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau amrywiol i'r DWP i brofi pwy ydych chi a ble rydych chi'n byw. Gellir cynnal gwiriadau dogfennau naill ai trwy wiriadau digidol gan ddefnyddio Technoleg Dilysu Dogfennau Hunaniaeth (IDVT) neu wiriad dogfennau corfforol yn bersonol. Mae IDVT yn fath o dechnoleg a all sefydlu dilysrwydd dogfennau a gyflwynir at ddibenion dilysu hunaniaeth. Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda'ch dogfennaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Pan fyddwch chi'n pasio'r cam cyntaf hwn yn llwyddiannus, cynhelir gwiriadau pellach i gadarnhau cofnodion troseddol.
Bydd angen i chi ddarparu dogfennau i gefnogi'r gwiriadau hyn a bydd rhestr o ddogfennau adnabod derbyniol yn cael ei hatodi i'r hysbyseb.
Er mwyn sicrhau bod gennych chi'r holl ddogfennaeth gywir, defnyddiwch ein gwiriwr dogfennau adnabod a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darparu'r ddogfennaeth y gofynnwyd amdano o fewn 48 awr i dderbyn y cais.
Byddwn hefyd yn gwirio'r Gronfa Ddata Twyll Fewnol (IFD). Gwrthodir cyflogaeth unrhyw fanylion ymgeisydd a gedwir ar yr IFD. Nid ydych yn gymwys i wneud cais am rôl o fewn y Gwasanaeth Sifil os gwneir y cais o fewn cyfnod o 5 mlynedd yn dilyn diswyddiad am gyflawni twyll mewnol yn erbyn y llywodraeth.
Pan ofynnir i chi ddarparu dogfennaeth yn ystod y broses fetio o fewn y platfform ymgeisio, byddwch hefyd yn derbyn e-bost. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r camau gweithredu gofynnol.
Rhowch wybodaeth ac unrhyw ddogfen a ofynnir amdani o fewn yr amserlen a roddir. Gall methu â gwneud hynny arwain at dynnu'ch cais yn ôl.
Ar gyfer rolau mewn Cydymffurfiaeth Gwrth-dwyll a Dyled (CFCD), efallai y bydd gwiriadau ychwanegol gan y gallai fod angen cliriad diogelwch uwch arnoch.
Cynnig Ffurfiol
Unwaith y bydd eich holl wiriadau cyn cyflogaeth wedi’u clirio (os ydych ar apwyntiad amodol), neu pan fyddwch wedi cytuno ar ddyddiad cychwyn addas gyda’r busnes y’ch neilltuwyd iddo (os nad ydych ar apwyntiad amodol), bydd cynnig ffurfiol cael ei wneud. Byddwn yn cadarnhau hyn drwy e-bost a bydd gennych 5 diwrnod i dderbyn y cynnig hwn. Os na fyddwch yn derbyn y cynnig ffurfiol o fewn 5 diwrnod, mae’n bosibl y caiff eich cynnig ei dynnu’n ôl ac ni chaiff eich rôl barhaol ei chwblhau. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth dderbyn eich cynnig, cysylltwch â'n tîm recriwtio am gymorth.
Dewis Lleoliad
Gall fod mwy nag un lleoliad wedi'i restru ar yr hysbyseb.
Yn yr achos hwn, gofynnir i chi am eich dewisiadau ar gyfer hyd at 3 lleoliad (o'r rhai sydd ar gael yn y swydd wag) gan ddweud wrthym ble y byddai'n well gennych weithio os byddwch yn llwyddiannus. Peidiwch â dewis lleoliad oni bai eich bod yn barod i dderbyn rôl yn y lleoliad hwnnw.
Dewisir penodiad i’r Gwasanaeth Sifil ar sail teilyngdod, ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil yma.
Bydd cynigion swydd a wneir yn nhrefn teilyngdod ac mae posibilrwydd na fydd eich lleoliadau dewisol ar gael mwyach yn dibynnu ar eich safle ar y rhestr deilyngdod. Os nad yw unrhyw un o’ch dewisiadau lleoliad yn parhau ar yr adeg y byddwn yn cynnig swydd, bydd DWP yn ceisio cynnig rôl i chi o’r lleoliadau sydd ar gael o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’ch Hafan. Os na allwn gynnig rôl i chi yn eich lleoliad dewisol neu leoliad arall o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i'ch Hafan, byddwn yn eich ychwanegu at restr wrth gefn.
Addasiad Rhesymol
Rydym yn croesawu amrywiaeth yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Fel y cyfryw, rydym yn cynnal Cynllun Hyderus o ran Anabledd (DCS) ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Os derbynnir niferoedd uchel o geisiadau, efallai y codir y meincnod i ymgeiswyr symud ymlaen i'r cam nesaf. Yn unol â'n hymrwymiad i'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd (DCS), ein nod yw symud yr holl ymgeiswyr sy'n gwneud cais o dan y DCS sy'n bodloni'r safon ofynnol ymlaen. Fodd bynnag, ni allwn ond symud ymlaen â'r ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r safonau gofynnol orau.
Os ydych angen rhagor o wybodaeth neu gymorth neu addasiadau rhesymol gyda’ch cais, cysylltwch â dwp-customer_hub@resourcing.soprasteria.co.uk neu ffoniwch 0345 241 5365.
Swyddi gwag