Close
Cartref Y Rôlau Swyddi gwag Trosolwg o'r Broses Cwestiynau cyffredin English

Recriwtio Swyddogion Gweithredol

Mae DWP yn adran o fewn y Gwasanaeth Sifil. Archwiliwch fwy am yrfaoedd o fewn y Gwasanaeth Sifil trwy'r ddolen hon. Cartref | Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil (civil-service-careers.gov.uk). Byddwch hefyd yn darganfod mwy am ein Gwerthoedd a'n Gweledigaeth a sut mae'r rhain yn cael eu cyflawni a chlywed yn uniongyrchol gan rai o'n cydweithwyr presennol.

Clywch gan rai o'n cydweithwyr Pam ymuno â DWP

Am DWP

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn un o Adrannau mwyaf y Llywodraeth ac yn yn gyfrifol am bolisi lles, pensiynau a chynhaliaeth plant. Ni yw adran gwasanaethau cyhoeddus fwyaf y DU ac rydym yn gweinyddu Pensiwn y Wladwriaeth ac ystod o fudd-daliadau oedran gweithio, anabledd ac afiechyd i tua 20 miliwn o hawlwyr a chwsmeriaid.

Mae DWP wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy'n croesawu amrywiaeth ac sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn, wedi'u hatgyfnerthu gan ein gwerthoedd, yn cael eu hymgorffori yn ein harferion gwaith o ddydd i ddydd gyda'n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym yn recriwtio o fewn ein Proffesiwn Cyflawni Gweithredol a gellir dod o hyd i swyddi gweigion byw yn y tab Swyddi Gwag ar gyfer y radd y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Buddion

Mae llawer o fanteision gwych i weithio i gyflogwr Gwasanaeth Sifil mawr ac yn ogystal â'r wybodaeth y gallwch ddarllen amdani yma sy'n ymdrin yn fanwl â chydbwysedd bywyd a gwaith, Iechyd a Lles, Gostyngiadau, Y Cynllun Pensiwn a Datblygiad Gyrfa a Phersonol. Rhai uchafbwyntiau yw:

Ffocws DWP

Ein Cyfrifoldebau

  • Cefnogi pobl i weithio a gwneud i waith dalu.
  • Cefnogi pobl anabl a'r rhai â salwch i weithio a bod yn annibynnol.
  • Darparu incwm teilwng i bobl o oedran pensiwn a hyrwyddo cynilo ar gyfer ymddeoliad.
  • Darparu gwerth am arian a lleihau lefelau twyll a chamgymeriadau.

Ein Blaenoriaethau

  • Rhedeg system les effeithiol sy'n galluogi pobl i gyflawni annibyniaeth ariannol trwy ddarparu cymorth ac arweiniad i gyflogaeth.
  • Cynyddu cynilo ar gyfer bywyd diweddarach, a diogelwch yn y dyfodol.
  • Creu system les deg a fforddiadwy sy'n gwella cyfleoedd bywyd plant.
  • Darparu gwasanaethau rhagorol i'n cwsmeriaid a hawlwyr.
  • Trawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd.
  • Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am y rôl benodol rydych yn gwneud cais amdano drwy glicio YMA

Cydraddoldeb

Mae DWP yn darparu gwasanaethau sy'n croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal.

Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, hil, lliw, cenedligrwydd, crefydd, oedran, anabledd, HIV positif, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgaredd undeb llafur, credoau gwleidyddol neu unrhyw seiliau eraill.

Mae DWP yn cael ei chydnabod fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd gan ddangos ymrwymiad yr adran i ddenu, recriwtio a chadw pobl anabl, a’u cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.

Mae DWP wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy'n croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Fel cyflogwr rydym hefyd wedi ymrwymo i uchelgais y Gwasanaeth Sifil i fod y cyflogwr mwyaf cynhwysol yn y DU a byddwn yn parhau i:

  • Cynyddu cynrychiolaeth grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd i wneud DWP yn fwy amrywiol.
  • Creu a chynnal diwylliant cynhwysol lle mae gan gydweithwyr ymdeimlad o berthyn, lle gallant fod yn eu hunain yn y gwaith, gyda llais yn eu tîm a theimlo eu bod yn cael eu grymuso, eu gwerthfawrogi a'u trin yn deg i gyflawni eu llawn botensial.

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn anelu at gael gweithlu sy’n cynrychioli’r gymdeithas ehangach yr ydym yn ei gwasanaethu. I gael rhagor o wybodaeth am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth o fewn DWP, ewch i'n tudalen gov.uk Cydraddoldeb ac amrywiaeth - Yr Adran Gwaith a Phensiynau - GOV.UK (www.gov.uk)..

Mae DWP hefyd yn cynnig ‘cynllun Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr’ gan ei gwneud hi’n haws i gyn-filwyr ymuno â’r Gwasanaeth Sifil. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Sifil Gwneud y Gwasanaeth Sifil yn Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr - GOV.UK (www.gov.uk). Bydd rhagor o wybodaeth am hyn hefyd ar yr hysbyseb swydd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi gadael carchar yn ddiweddar neu sydd ag euogfarn heb ei disbyddu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen recriwtio Gadawyr Carchar y Gwasanaeth Sifil ar GOV.UK.

"Rydym yn dyheu am fod yn gyflogwr gwirioneddol gynhwysol ac rydym yn croesawu ceisiadau am ein rolau i'n helpu adlewyrchu'r dinasyddion rydym yn eu gwasanaethu. Hoffwn fod yn weithle lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu wrth fod nhw eu hunain a lle mae gan bawb ran i'w chwarae wrth gyflawni ein pwrpas o gefnogi pobl nawr ac yn y dyfodol. Mae'n amser cyffrous i weithio yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a gall eich cyflawniadau yn y dyfodol wir drawsnewid bywydau. Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â ni."